01286 660351 | 07792 954850 |

Welsh dragonAdeiladwyr - BuildersWelsh dragon

Tystebau

"Annwyl Syr/Fadam,
Cyfeiriaf at eich cais am dystiolaeth o waith y cwmni uchod ar brosiect o’r gorffennol.

Fe ymgymerodd y cwmni â’r dasg o godi estyniad i Dolawen yn ystod gaeaf 2014/15. Roedd y gwaith yn golygu’r canlynol yn fras:

  • Clirio’r safle;
  • Darparu sylfeini a thraeniau newydd;
  • Codi estyniadau unllawr yn cynnwys waliau o ffram bren a tho llechi;
  • Gosod ffenestri velux a drysau patio newydd,
  • Gwaith tirlunio a ffensio allanol

Trwy gydol y prosiect bu ymagwedd Mr Hughes a’i dîm yn broffesiynol a thryloyw gan gynnwys paratoi amcanbris cyflawn, realistig a dealladwy ar y cychwyn, gofal a chyfathrebu cyson yn ystod cyflawni’r posiect a chytuno a gweithredu parod ar y rhestr snagio ar ei ddiwedd. Fe gadwodd y cwmni at yr amserlen yn weddol gan gymryd i ystyriaeth yr amodau anffafriol a gafwyd y gaeaf dan sylw.
Dewch i gysylltiad os oes angen rhagor o wybodaeth neu eglurhâd pellach."

Yn gywir, Owain Wyn, B.Sc Econ, M. Sc, MBA MRTPI

"Buodd Geraint a’r Cwmni yma yn gwneud estyniad yn ystod gaeaf / gwanwyn 2014. Roedd y broses o’r dechrau i’r diwedd yn ddi-drafferth iawn. Prisiwyd y job yn gywir ac yn deg, oedd yn golygu fod y pris a dalwyd yn debyg iawn i’r dyfynbris ar ddechrau’r job.
Os oedd rhywbeth ychwanegol yn codi yn ystod y cyfnod adeiladu, byddai Geraint yn trafod gyda ni a gwneud yn siŵr ein bod yn hapus gyda’r gost ychwanegol cyn cychwyn ar y gwaith.
Roedd y criw yma yn brydlon bob dydd, ac os oedd rheswm na fydden nhw yn dod draw i weithio ar yr estyniad , mi fyddwn i’n cael gwybod gan Geraint a’r rheswm am hynny (ee disgwyl coed y to, “wnei di ddim ein gweld am wythnos rŵan” – math o beth). Roeddwn yn gwerthfawrogi hyn, gan fod cyfathrebu da yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran y berthynas rhwng adeiladwr a chleient.
Roedd safon y Gwaith yn uchel, ac roedd y criw yn cadw’r safle yn daclus. Byddwn yn hapus iawn i argymell Geraint a’r Cwmni i eraill."

Angharad Prys

"Roedd Cêt a finna yn ymwybodol o enw da Geraint a’i gwmni ers blynyddoedd, a dyna pam y bu i ni benderfynu ei gontractio i drosi ein hen feudy yn fwthyn.Mae safon ei waith wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd, a phawb sydd yn dod acw i weld y Beudy ar ei newydd wedd yn canmol ansawdd yr adeilad a graen y crefftwaith. Mae’r criw wedi trawsnewid hen furddun yn balas bach moethus.Mae Geraint yn gymeriad mor hawdd i gydweithio gydag ef, a bu’r bartneriaeth rhwng contractwr a chwsmer yn un bleserus a didrafferth o’r cychwyn cyntaf. Un o’i gryfderau pennaf yw ei allu i awgrymu addasiadau i gynlluniau wrth i’r prosiect ddatblygu, yn fawr neu’n fach, a hynny er mwyn creu’r adeilad gorffenedig gorau posibl at anghenion y cwsmer.Buaswn yn argymell Geraint a’i gwmni i unrhyw un oherwydd rydym ni’n dau wrth ein bodd efo’r canlyniadau ac yn gant y cant hapus efo’r gwasanaeth meistrolgar, y proffesiynoldeb arbennig, a natur gwrtais a chyfeillgar a dibynadwy yr holl weithwyr."

Morgan a Cêt Jones, Gwydir Mawr (a’r Beudy), Trefor

"Deuddeg mis yn ôl, fe adeiladodd Geraint Hughes a’i gwmni estyniad i mi. Rwy’n hapus iawn gyda’r gwaith gorffenedig, gan fod y safon yn ddi-fai. Yn ystod yr adeiladu, roedd bob amser yn dangos agwedd broffesiynol ac yn gweithio’n effeithiol. Roedd yn drefnus yn ystod y gwahanol gamau o’r adeiladu, yn ymfalchïo mewn bod yn daclus ac yn glanhau ar ei ôl yn ddeddfol. Mae’n amlwg ei fod yn adeiladwr gyda phrofiad eang ac yn gyfarwydd gyda rheoliadau cynllunio diweddar. Nifer o weithiau wrth godi’r estyniad, bu iddo gynnig cyngor gwerthfawr a chywir ynglŷn â materion technegol. O’m mhrofiad o ddelio â Geraint, mae’n adeiladwr dibynadwy a gweithgar ac heb amheuaeth, byswn yn ei argymell i unrhyw un sydd angen adeiladwr o safon."

Yn gywir, Gareth Williams

"Dros y blynyddoedd mae Geraint wedi gwneud tipyn o waith ar dŷ Gwernafalau. Mae’n gymeriad dymunol a gallwn ei argymell fel contractwr. Mae’n ymateb i alwad ffôn neu ebost, yn trefnu ymweliad, ac yn rhoi pris ar y gwaith ynghyd â rhaglen waith. Os yw’n methu dod am ryw reswm, mae’n gadael inni wybod."

Osborn a Glesni Jones, Gwernafalau, Llandwrog